Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 13:23-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Ac wedi iddo orffen bwyta ac yfed, cyfrwywyd iddo asyn o eiddo'r proffwyd a'i dygodd yn ôl.

24. Fel yr oedd yn mynd ar hyd y ffordd, daeth llew i'w gyfarfod a'i ladd; gadawyd ei gorff i orwedd ar y ffordd, gyda'r asyn a'r llew yn sefyll yn ei ymyl.

25. Digwyddodd rhywrai ddod heibio a gweld y corff ar y ffordd, gyda'r llew yn ei ymyl, ac aethant ac adrodd yr hanes yn y dref lle'r oedd y proffwyd oedrannus yn byw.

26. Pan glywodd y proffwyd a'i dygodd yn ôl o'i daith, dywedodd, “Dyna ŵr Duw a wrthododd neges yr ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i'r llew, a hwnnw wedi ei larpio a'i ladd yn ôl y gair a fynegodd yr ARGLWYDD.”

27. A dywedodd wrth ei feibion, “Cyfrwywch asyn imi.” Wedi iddynt ei gyfrwyo,

28. aeth y proffwyd, a chael y corff ar y ffordd, a'r llew a'r asyn yn sefyll yn ei ymyl. Nid oedd y llew wedi bwyta'r corff na llarpio'r asyn.

29. Cododd y proffwyd y corff a'i osod ar yr asyn, a'i gludo'n ôl, a'i ddwyn i dref y proffwyd oedrannus er mwyn galaru drosto a'i gladdu.

30. Ac wedi gosod y corff yn ei fedd ei hun, galarodd drosto a dweud, “O fy mrawd!”

31. Ar ôl ei gladdu, dywedodd wrth ei feibion, “Pan fyddaf farw, claddwch fi yn y bedd lle mae gŵr Duw wedi ei gladdu; gosodwch fy esgyrn wrth ei esgyrn ef.

32. Yn sicr fe ddigwydd yr hyn a gyhoeddodd drwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor ym Methel ac yn erbyn holl adeiladau'r uchelfeydd sydd yn nhrefi Samaria.”

33. Ni throdd Jeroboam oddi wrth ei ffordd ddrygionus wedi'r digwyddiad hwn. Parhaodd i wneud offeiriaid uchelfeydd o'r bobl yn ddiwahân; byddai'n urddo pwy bynnag a ddymunai yn offeiriaid uchelfeydd.

34. Bu hyn yn dramgwydd i deulu Jeroboam ac yn achos eu difetha a'u difodi oddi ar wyneb y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 13