Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 13:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Dywedodd yntau wrth ei feibion, “Cyfrwywch asyn imi.” Ac wedi iddynt gyfrwyo'r asyn, marchogodd arno

14. a mynd ar ôl gŵr Duw, a'i gael yn eistedd tan dderwen. Gofynnodd iddo, “Ai ti yw'r gŵr Duw a ddaeth o Jwda?” Ac atebodd yntau, “Ie.”

15. Yna dywedodd y proffwyd oedrannus, “Tyrd adref gyda mi am bryd o fwyd.”

16. Atebodd y llall, “Ni fedraf ddychwelyd gyda thi, na bwyta nac yfed dim gyda thi yn y lle hwn.

17. Dyma'r neges a gefais drwy air yr ARGLWYDD: ‘Paid â bwyta bara nac yfed dim yno, na dychwelyd y ffordd yr aethost.’ ”

18. Ond dywedodd y proffwyd oedrannus wrtho, “Yr wyf finnau'n broffwyd fel ti, ac y mae angel wedi dweud wrthyf drwy air yr ARGLWYDD, ‘Dos ag ef yn ôl gyda thi adref i fwyta bara ac yfed dŵr.’ ” Ond dweud celwydd wrtho yr oedd.

19. Aeth yntau'n ôl gydag ef, a bwyta ac yfed yn ei gartref.

20. Tra oeddent yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a'i dygodd yn ôl,

21. a chyhoeddodd wrth ŵr Duw a ddaeth o Jwda, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am iti wrthod yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD, a pheidio â chadw gorchymyn yr ARGLWYDD dy Dduw,

22. ond yn hytrach dychwelyd a bwyta ac yfed yn y lle y dywedodd ef wrthyt am beidio â bwyta nac yfed, am hynny ni ddaw dy gorff i fedd dy hynafiaid.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 13