Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Tra oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor i offrymu, daeth gŵr Duw o Jwda i Fethel yn ôl gair yr ARGLWYDD.

2. A chyhoeddodd yn erbyn yr allor drwy air yr ARGLWYDD: “Allor, allor, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele, fe enir mab i linach Dafydd o'r enw Joseia; bydd ef yn aberthu arnat offeiriaid yr uchelfeydd sy'n offrymu arnat, a llosgir arnat esgyrn dynol.’ ”

3. A rhoddodd argoel y dydd hwnnw, a dweud, “Dyma'r argoel a addawodd yr ARGLWYDD: bydd yr allor yn ddrylliau, a chwelir y lludw sydd arni.”

4. Pan glywodd y Brenin Jeroboam y gair a gyhoeddodd gŵr Duw yn erbyn yr allor ym Methel, estynnodd ei law dros yr allor a dweud, “Cydiwch ynddo!” Ond gwywodd y llaw a estynnodd ato, ac ni fedrai ei thynnu'n ôl.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 13