Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth Rehoboam i Sichem, gan mai i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo'n frenin.

2. Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, a oedd o hyd yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, arhosodd yn yr Aifft.

3. Ond galwasant amdano, a daeth Jeroboam a holl gynulliad Israel a dweud wrth Rehoboam,

4. “Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn.”

5. Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch i ffwrdd am dridiau, ac yna dewch yn ôl ataf.” Aeth y bobl.

6. Ymgynghorodd Rehoboam â'r henuriaid oedd yn llys ei dad Solomon pan oedd yn fyw, a gofynnodd, “Sut y byddech chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn?”

7. Eu hateb oedd, “Os byddi di heddiw yn was i'r bobl hyn, a'u gwasanaethu a'u hateb â geiriau teg, byddant yn weision i ti am byth.”

8. Ond gwrthododd y cyngor a roes yr henuriaid, a cheisiodd gyngor y llanciau oedd yn gyfoed ag ef ac yn aelodau o'i lys.

9. Gofynnodd iddynt hwy, “Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, ‘Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom’?”

10. Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, “Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt: ‘Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom.’ Ie, dyma a ddywedi wrthynt: ‘Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!

11. Mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!’ ”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12