Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 11:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Carodd y Brenin Solomon lawer o ferched estron heblaw merch Pharo—merched o Moab, Ammon, Edom, Sidon a'r Hethiaid,

2. y cenhedloedd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid amdanynt, “Peidiwch â'u priodi, a pheidiwch â rhoi mewn priodas iddynt; byddant yn sicr o'ch hudo i ddilyn eu duwiau.” Ond dal i'w caru a wnâi Solomon.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 11