Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 10:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Ac yr oedd y byd i gyd yn ymweld â Solomon i glywed y ddoethineb a roddodd Duw yn ei galon.

25. Bob blwyddyn dôi rhai â'u rhoddion—llestri arian ac aur, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod.

26. Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.

27. Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 10