Pan welaf waith dy fyseddWrth edrych tua’r ne’:Yr haul a’r sêr a’r lleuad,A roddaist yn eu lle,“Pwy ydwyf fi,” gofynnaf,“A phwy yw dynol ryw,I ti ofalu amdanom,A’n cofio, f’Arglwydd Dduw?”