Hen Destament

Salmau 79:1-4-10-13 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Mae’r cenhedloedd wedi llygruD’etifeddiaeth di, O Dduw.Yn Jerwsalem, fe wnaethantDy lân deml yn adfail gwyw.Rhônt i adar a bwystfilodGyrff dy weision di, a’u cnawd.Tywalltasant waed yn ddyfroedd;Aethom oll yn destun gwawd.

5-9. Arglwydd, am ba hyd? A fyddi’nDdig am byth, yn llosgi’n dân?Tro dy ddicter at y bobloeddNad adwaenant d’enw glân.Paid â dal drygioni ein tadauYn ein herbyn. Trugarha.Dduw ein hiachawdwriaeth, maddauInni, er mwyn dy enw da.

10-13. Pam y caiff estroniaid holi,“Ple mae’u Duw?”? Diala’n glauWaed dy weision; clyw ochneidiau’rCarcharorion, a’u rhyddhau.Taro seithwaith ein cymdogionAm dy watwar; a chawn ni,Braidd dy borfa, ym mhob cenhedlaeth,Adrodd byth dy foliant di.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 79