6. Fy nhafod glyned yn fy ngheg,A thrawer fi yn fud,Os na rof di, Jerwsalem,Uwch popeth gorau’r byd.
7. Am boen Jerwsalem, O Dduw,Rho i Edom benyd trwm,Am iddynt ddweud, “I lawr â hiAt ei sylfeini llwm”.
8-9. A thithau, Fabilon, gwyn fydY sawl a dâl i ti,A lladd dy blant yn erbyn craigAm iti’n dryllio ni.