Hen Destament

Salmau 132:1-2-17-18 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Cofia am Ddafydd, Arglwydd tirion;Cofia am ei holl dreialon;Cofia am ei lw angerddolI Un Grymus Jacob dduwiol:

3-5. “Nid af byth i mewn i’m pabell,Ni chymeraf gwsg na hunell,Ni orffwysaf byth yn unmanNes cael gwneud i’r Arglwydd drigfan”.

6-7. Yn Effratha gynt fe glywsomAm yr arch, ac yna cawsomHi ym meysydd coed y gelli.Awn i’r deml, a phlygwn wrthi.

8-9. Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa,Ti ac arch dy nerth; a gwisga chyfiawnder dy offeiriaid.Gorfoledded dy ffyddloniaid.

10-11a. Er mwyn Dafydd, dy was enwog,Paid â gwrthod dy eneiniog.Gynt i’r brenin Dafydd tyngaistSicr adduned, ac fe’i cedwaist:

11b-12. “Mi osodaf byth ar d’orseddUn o ffrwyth dy gorff i eistedd;Ac, os ceidw fy nghyfreithiau,Caiff ei fab ei ddilyn yntau”.

13-14. Canys Seion a ddewisoddDuw yn drigfan, a dywedodd:“Hon am byth fydd fy ngorffwysfa;Mi ddewisais drigo yma.

15-16. Â bwyd ddigon fe’i bendithiaf;Ei holl dlodion a ddigonaf.Rhof gyfiawnder i’w hoffeiriaid,Gorfoledda ei ffyddloniaid.

17-18. Llinach Dafydd fydd sefydlog;Byth ni ddiffydd lamp f’eneiniog.Daw cywilydd i’w elynion;Gwisga yntau ddisglair goron”.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 132