1-3. Rwy’n caru Duw am iddo ef,Pan waeddais, wrando ar fy llef.Amdanaf yr oedd ing yn cauA chlymau angau yn tynhau.
4-5. Ar enw’r Arglwydd gelwais i:“Rwy’n erfyn, Arglwydd, gwared fi”.Yr Arglwydd, da a chyfiawn yw,A llawn tosturi yw ein Duw.
6-7. Fe geidw Duw rai syml y byd.Gwaredodd fi o’m poenau i gyd.Caf orffwys, lle bûm gynt yn wael,Cans wrthyf fi bu Duw yn hael.
8-9. Gwaredodd fi rhag angau du,Fy llygaid pŵl rhag dagrau lu,Fy nhraed rhag baglu. Gerbron DuwCaf rodio mwy yn nhir y byw.
10-11. Yr oeddwn gynt ar lan y bedd,A chystudd trwm yn hagru ’ngwedd;Ac meddwn wrthyf fi fy hun,“Twyllodrus ydyw cymorth dyn”.
12-13. Pa beth a dalaf fi yn awrI Dduw am ei haelioni mawr?Mi godaf gwpan fy iachâdA galw’i enw mewn coffâd.