3. Hedd a chyfiownder, yn ol hyn,cair ym hob bryn a mynydd.
4. Y gwan a’r llesg achub a wna,fe dryllia y gorthrymmydd.
5. Hwy a’th ofnant byth ar bob tro,tra treiglo haul a lleuad,
6. Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,neu gafod frâs ar wastad,
7. Iw ddyddiau ef cerir yn iawn,a’r cyfiawn a flodeua.Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,tra fo’r lloer hon yn para.
8. Llwydda efe o for hyd for,o’r ffrwd hyd oror tiroedd:
9. Ei gâs ymgrymmnt, llyfant lwch,hyd yr anialwch cyrredd.
10. Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,ac o’r ynysoedd canol,O Seba ac Arabia deg,doe bawb â’i anrheg reiol.