1. Erglyw (o Dduw) fy llefain i,ac ar fy ngweddi gwrando:
2. Rhof lef o eitha’r ddaiar gron,a’m calon yn llysmeirio.Dwg fi i dollgraig uwch na mi,ac iddi bydd i’m derbyn.
3. Cans craig o obaith, twr difost,y’m fuost rhag y gelyn.
4. O fewn dy Babell y bydd byth,fy nrigfan dilyth dedwydd:A’m holl ymddiried a fyn fodynghysgod dy adenydd.
5. Sef tydi Dduw clywaist yn glau,fy addunedau puraidd:Rhoist etifeddiaeth i bob rhaia ofnai dy enw sanctaidd.