1. Duw fy nghyfiownder clywaist fi,i’m cyni pan i’th elwais:Rhyddheaist fi, dod y’m un wedd,drugaredd, clyw fy oerlais.
2. O feibion dynion hyd ba hydy trowch trwy gyd ymgabledd,Fy mharch yn warth? a hynny sydddrwy gelwydd a thrwy wagedd.
3. Gwybyddwch ethol o Dduw cun,iddo’i hun y duwiolaf:A phan alwyf arno yn hy,efe a wrendy arnaf.
4. Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,meddyliwch ar eich gwely,
5. Aberthwch, gobeithiwch Dduw ner,rhodd cyfiownder yw hynny.