1. Wele fod brodyr yn byw ’nghyd,mor dda, mor hyfryd ydoedd:
2. Tebyg i olew o fawr werth,mor brydferth ar y gwisgoedd.Fel pe discynnai draw o’r nen,rhyd barf a phen offeiriad.Sef barf Aron a’i wisg i gyd,yn hyfryd ei arogliad.
3. Fel pe discynnai gwlith Hermonyn do dros Seion fynydd,Lle rhwymodd Duw fywyd, a gwlithei fendith, yn dragywydd.
Darllenwch bennod gyflawn Salm 133