1. A ofno’r Arglwydd gwyn ei fyd,a rhodiaw rhyd ei lwybrau,
2. Bwyttei o ynnill gwaith dy law,a blith y daw i tithau.
3. Dy wraig ar du dy dy is nen,fel per winwydden ffrwythlon,Dy blant ynghylch dy fwrdd a fyddfel olewydd blanhigion:
4. Wele, fal dyma’r modd yn wirbendithir y gwr cyfion,Ac ofno’r Arglwydd Dduw yn ddwys,rhydd arno bwys ei galon.
5. Cei gyflawn fendith gan Dduw Ion,bydd dithau Seion ddedwydd,Fel y gwelych â golau drem,Caersalem mewn llawenydd.
6. Holl dyddiau d’einioes. Plant dy blant,cei weled llwyddiant iddynt,Ac ar holl deulu Israel,daw hedd diogel arnynt.
Darllenwch bennod gyflawn Salm 128