Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae'r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli'n hyfryd, ac yn aberth sy'n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio.