12. Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi'n gyfle newydd i rannu'r newyddion da.
13. Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod fy mod i yn y carchar am fy mod i'n gweithio i'r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny!
14. Ac mae'r ffaith fy mod i yn y carchar hefyd wedi helpu'r rhai sy'n credu i fod yn fwy hyderus – does ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw.
15. Mae'n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy'n ysgogi rhai i gyhoeddi'r neges am y Meseia, ond mae eraill sy'n gwneud hynny am y rhesymau iawn.
16. Cariad sy'n eu hysgogi nhw, ac maen nhw'n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da.
17. Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae'r grŵp cyntaf – dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau'n anodd i mi tra dw i yn y carchar.
18. Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus. A hapus fydda i hefyd!
19. Dych chi wrthi'n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i'n gwybod y bydda i'n cael fy rhyddhau yn y diwedd.
20. Dw i'n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i'n ei wneud – hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma!
21. I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i'n ennill hyd yn oed os bydda i'n cael fy lladd!
22. Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i'n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i'n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod!
23. Dw i'n cael fy nhynnu'r naill ffordd a'r llall: Dw i'n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda'r Meseia am byth – dyna'n sicr ydy'r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd!
24. Ond mae'n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw.
25. O feddwl am y peth, dw i'n reit siŵr y bydda i'n aros, i'ch helpu chi i dyfu a phrofi'r llawenydd sydd i'w gael o gredu yn y Meseia.