1. Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias).
2. Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld yr arwyddion gwyrthiol o iacháu pobl oedd yn sâl.
3. Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion.
4. Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon) yn agos.
5. Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod tuag ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni'n mynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”
6. (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu'n gwybod beth oedd e'n mynd i'w wneud).
7. Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!”
8. Yna dyma un o'r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud,
9. “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!”
10. Dwedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma'r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd.
11. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl dweud gweddi o ddiolch, eu rhannu i'r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda'r pysgod, a chafodd pawb cymaint ag oedd arnyn nhw eisiau.
12. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.”