Bum diwrnod wedyn daeth Ananias yr archoffeiriad i Cesarea gyda rhai o'r arweinwyr Iddewig, a chyfreithiwr o'r enw Tertwlus. Dyma nhw'n cyflwyno'r cyhuddiadau yn erbyn Paul i'r llywodraethwr.