Gall yr archoffeiriad ac aelodau Cyngor y Sanhedrin dystio i'r ffaith fod hyn i gyd yn wir, am mai nhw roddodd lythyrau i mi i'w cyflwyno i arweinwyr ein pobl yn Damascus. Roeddwn i'n mynd yno i arestio'r Cristnogion a dod â nhw yn ôl yn gaeth i Jerwsalem i'w cosbi nhw.