34. Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw'n ei geisio;roedden nhw'n troi'n ôl ato a hiraethu amdano.
35. Dyma nhw'n cofio mai Duw oedd eu Craigac mai'r Duw Goruchaf oedd wedi eu rhyddhau nhw.
36. Ond doedd eu geiriau'n ddim byd ond rhagrith;roedden nhw'n dweud celwydd.
37. Doedden nhw ddim wir o ddifrif;nac yn ffyddlon i'w hymrwymiad.
38. Ac eto, mae Duw mor drugarog!Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal;wnaeth e ddim eu dinistrio nhw.Roedd yn ffrwyno ei deimladau dro ar ôl tro,yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw.
39. Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw;chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl.
40. Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch,a peri gofid iddo yn y tir diffaith.
41. Rhoi Duw ar brawf dro ar ôl tro,a digio Un Sanctaidd Israel.
42. Anghofio beth wnaeth epan ollyngodd nhw'n rhydd o afael y gelyn.
43. Roedd wedi dangos iddyn nhw yn yr Aifft,a gwneud pethau rhyfeddol ar wastatir Soan:
44. Trodd yr afonydd yn waed,fel eu bod nhw'n methu yfed y dŵr.
45. Anfonodd haid o bryfed i'w pigoa llyffaint i ddifetha'r wlad.
46. Tarodd eu cnydau â phla o lindys,ffrwyth y tir â phla o locustiaid.