1. O ARGLWYDD, fy Nuw, dw i'n troi atat ti am loches.Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy'n fy erlid. Achub fi,
2. rhag iddyn nhw, fel llew, fy rhwygo'n ddarnau,ie, yn ddarnau mân, nes bod neb yn gallu fy achub.
3. O ARGLWYDD, fy Nuw, os ydy e'n wir –os ydw i'n euog o wneud drwg,
4. os ydw i wedi bradychu fy ffrind,(ie fi, yr un a achubodd fy ngelyn am ddim gwobr!)
5. yna gad i'r gelyn ddod ar fy ôl i, a'm dal i.Gad iddo fy sathru dan draed,a'm gadael i orwedd mewn cywilydd ar lawr. Saib
6. Côd, ARGLWYDD! Dangos dy fod ti'n ddig,a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn!Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i,a dangos sut rwyt ti'n mynd i'w barnu nhw!
7. Mae'r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas;eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau!
8. Mae'r ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd!Achub fy ngham, O ARGLWYDD,achos dw i wedi gwneud beth sy'n iawn. Dw i ddim ar fai.