3. Roedd rhaffau marwolaeth wedi eu rhwymo amdana i;roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.Ro'n i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus!
4. A dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD,“O ARGLWYDD, plîs achub fi!”
5. Mae'r ARGLWYDD mor hael a charedig;ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.
6. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.
7. Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto!Mae'r ARGLWYDD wedi achub fy ngham!
8. Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,cymryd y dagrau i ffwrdd,a'm cadw i rhag baglu.
9. Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r ARGLWYDDar dir y byw.
10. Roeddwn i'n credu ynddo pan ddywedais,“Dw i'n diodde yn ofnadwy,”
11. ond yna dweud mewn panig,“Alla i ddim trystio unrhyw un.”
12. Sut alla i dalu nôl i'r ARGLWYDDam fod mor dda tuag ata i?
13. Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD.
14. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen ei bobl.
15. Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlonyn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
16. Plîs ARGLWYDD,dw i wir yn un o dy weisionac yn blentyn i dy forwyn.Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.
17. Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i tiac yn galw ar enw yr ARGLWYDD.
18. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen y bobl sy'n ei addoli
19. yn ei deml yn Jerwsalem.Haleliwia!