45. Cewch brynu plant mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi hefyd – hyd yn oed y rhai sydd wedi eu geni a'u magu yn eich gwlad chi. Gallan nhw fod yn eiddo i chi.
46. Cewch eu pasio ymlaen i'ch plant yn eich ewyllys hefyd. Cewch eu cadw nhw yn gaethweision am byth. Ond cofiwch, does gan neb hawl i drin un o bobl Israel yn greulon.
47. “Dwedwch fod un o'r mewnfudwyr, rhywun sydd ddim yn un o bobl Israel, yn llwyddo ac yn dod yn gyfoethog iawn. Mae un o bobl Israel sy'n byw yn yr un ardal yn colli popeth, ac mor dlawd nes ei fod yn gwerthu ei hun yn gaethwas i'r person sydd ddim yn dod o Israel, neu i un o'i deulu.
48. Mae'n dal ganddo'r hawl i brynu ei ryddid. Gall un o'i frodyr brynu ei ryddid,
49. neu ewyrth neu gefnder, neu'n wir unrhyw un o'r teulu estynedig. Neu os ydy e'n llwyddo i wneud arian, gall brynu ei ryddid ei hun.
50. Dylai dalu am y blynyddoedd sydd rhwng y flwyddyn wnaeth e werthu ei hun a blwyddyn y rhyddhau mawr. Dylai'r pris fod yr un faint â beth fyddai gweithiwr yn cael ei gyflogi wedi ei ennill y blynyddoedd hynny.
51. Os oes nifer fawr o flynyddoedd i fynd bydd y pris yn uchel,
52. ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl bydd y pris yn is.
53. Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon.
54. Os nad oes rhywun yn prynu ei ryddid, mae'n dal i gael mynd yn rhydd ar flwyddyn y rhyddhau mawr – y dyn a'i blant gydag e.
55. Fy ngweision i ydy pobl Israel. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.