1. Roedd y tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff yn ymestyn o Afon Iorddonen gyferbyn â ffynnon Jericho, drwy'r anialwch, ac i fyny o Jericho i fryniau Bethel.
2. Roedd y ffin yn y de yn ymestyn o Bethel i Lws, ac yn croesi i dir yr Arciaid yn Ataroth.
3. Yna roedd yn mynd i lawr i'r gorllewin i dir y Jaffletiaid, yna i Beth-choron Isaf, Geser ac at Fôr y Canoldir.
4. Dyma'r tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff, sef llwythau Effraim a Manasse.
5. Y tir gafodd y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Effraim: Roedd y ffin yn mynd o Atroth-adar yn y dwyrain i Beth-choron Uchaf,
6. yna ymlaen at y Môr. O Michmethath yn y gogledd roedd ffin y dwyrain yn mynd heibio Taanath-Seilo i Ianoach.
7. Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at yr Afon Iorddonen.
8. O TappĆ”ach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr.Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim.
9. Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda'r pentrefi o'u cwmpas.
10. Ond wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Mae'r Canaaneaid yno yn dal i fyw gyda phobl Effraim hyd heddiw, ac yn cael eu gorfodi i weithio fel caethweision iddyn nhw.
Darllenwch bennod gyflawn Josua 16