1. Felly Job, gwrando beth sydd gen i i'w ddweud.Gwranda'n ofalus ar fy ngeiriau i.
2. Edrych, dw i am agor fy ngheg,a gadael i'm tafod ddweud ei dweud.
3. Dw i'n mynd i siarad yn onest,a dweud fy marn yn gwbl agored.
4. Ysbryd Duw luniodd fi;anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n fy nghadw i'n fyw.
5. Ateb fi, os wyt ti'n gallu;gwna dy safiad, a dadlau yn fy erbyn i.
6. Dŷn ni'n dau yr un fath yng ngolwg Duw;ces innau hefyd fy ngwneud o'r pridd.
7. Felly does dim byd i ti ei ofni;fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti.
8. Dyma wyt ti wedi ei ddweud,(clywais dy eiriau di'n glir):
9. ‘Dw i'n ddieuog, heb wneud dim o'i le;dw i'n lân, a heb bechu.
10. Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn;mae'n fy nhrin i fel gelyn.
11. Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion,ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’
12. Dwyt ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam:Mae Duw yn fwy na dyn.