13. A peidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn –Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’
14. Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto,a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.
15. Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach;does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.
16. Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel?Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb.
17. Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt;cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl.
18. Mae gen i gymaint i'w ddweud,alla i ddim peidio dweud rhywbeth.
19. Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor;fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio.
20. Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis.Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb.
21. Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb,na ffalsio drwy roi teitlau parchus i bobl;
22. dw i ddim yn gwybod sut i seboni –petawn i'n gwneud hynny,byddai'r Duw a'm gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan!