24. Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon).
25. Plant Ana oedd Dishon ac Oholibama (merch Ana).
26. Meibion Dishon oedd Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
27. Meibion Etser oedd Bilhan, Saafan ac Acan.
28. Meibion Dishan oedd Us ac Aran.
29. Dyma arweinwyr llwythau'r Horiaid (Lotan, Shofal, Sibeon, Ana,
30. Dishon, Etser a Dishan.) Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid yng ngwlad Seir.
31. Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:
32. Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom.
33. Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le.
34. Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.
35. Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.