10. Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.
11. A'r un fath ar yr ochr ogleddol.
12. Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian.
13-15. Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.
16. Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi eu gwneud o'r lliain main gorau.
17. Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion.
18. Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder,
19. ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian.
20. Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas wedi eu gwneud o bres.
21. Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith.
22. Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
23. Ac roedd Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Aholïab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch.
24. Aur: 1,000 cilogram – dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
25. Arian: bron 3,500 cilogram – dyma'r arian gafodd ei gyfrannu gan y bobl.
26. Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif – sef 603,550 o ddynion.
27. Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig – cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un.
28. Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion.
29. Pres: bron 2,500 cilogram – (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
30. Cafodd hwn ei ddefnyddio i wneud socedi i'r fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, yr allor bres, y gratin iddi, offer yr allor i gyd,