5. Yna cymer y gwisgoedd ac arwisgo Aaron gyda'r crys, y fantell sy'n mynd gyda'r effod, yr effod ei hun, y darn dros y frest, a clymu'r effod gyda'r strap cywrain sydd wedi ei blethu.
6. Yna rho'r twrban ar ei ben, a rhwymo'r symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw ar y twrban.
7. Yna ei eneinio trwy dywallt yr olew ar ei ben.
8. Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau nhw,
9. rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio.
10. “Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
11. Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.
12. Wedyn cymer beth o waed y tarw a'i roi ar gyrn yr allor gyda dy fys. Mae gweddill y gwaed i gael ei dywallt wrth droed yr allor.
13. Yna cymer y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor.
14. Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e.
15. “Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
16. Wedyn lladd yr hwrdd, cymryd ei waed a'i sblasio o gwmpas yr allor.
17. Wedyn rhaid torri'r hwrdd yn ddarnau, golchi'r coluddion a'r coesau cyn eu gosod nhw ar y darnau a'r pen
18. ar yr allor, a llosgi'r cwbl. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
19. “Yna cymryd yr ail hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar yr anifail yma eto.