1. “Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
2. Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher.
3. Wedyn Nafftali, i'r de o Asher.
4. Wedyn Manasse.
5. Wedyn Effraim.
6. Wedyn Reuben.
7. Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
8. “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â tiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol.