Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i bopeth wnewch chi lwyddo. Byddwch chi'n cael lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael rhai bach, a bydd cynnyrch y tir yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw wrth ei fodd gyda chi, ac yn gwneud i chi lwyddo, fel roedd e wrth ei fodd gyda'ch hynafiaid chi,