Ond pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll dyma fe'n clywed rhyw ddyn yn dweud wrth ddyn arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi'n taro'r babell mor galed nes i'r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.”