8. Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”)
9. Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a'i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y palas.
10. Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gydag e.
11. Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a coed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.
12. Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr er mwyn ei bobl Israel.
13. Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto.
14. Dyma enwau'r plant gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon,
15. Ifchar, Elishwa, Neffeg, Jaffia,
16. Elishama, Eliada ac Eliffelet.
17. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth i lawr i'r gaer.
18. Roedd byddin y Philistiaid wedi cyrraedd; roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.
19. Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn rhoi'r Philistiaid i ti.”
20. Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.