20. Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
21. Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lân,ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
22. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
23. Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
24. Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
25. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
26. Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon,ac yn deg â'r rhai di-euog.
27. Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
28. Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.
29. Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD,ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
30. Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
31. Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir.Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
32. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?