Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!”