16. Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dwy cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.
17. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur pur.
18. Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd stôl droed aur o'i blaen a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr.
19. Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!
20. Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.
21. Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr gyda gweision Huram yn eu hwylio. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
22. Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman.
23. Ac roedd brenhinoedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo.
24. Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
25. Roedd gan Solomon stablau i bedair mil o geffylau cerbyd rhyfel, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw nhw yn rhai trefi penodol ac yn Jerwsalem.