Ond dyma Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram, yn cymryd Joas, mab ei brawd Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. Cuddiodd e gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. (Roedd Jehosheba yn ferch i'r brenin Jehoram, yn wraig i Jehoiada'r offeiriad, ac yn chwaer i Ahaseia.) Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd i Joas, a chafodd e mo'i ladd ganddi.