1. Disgynyddion Jwda:Perets, Hesron, Carmi, Hur, a Shofal.
2. Roedd Reaia fab Shofal yn dad i Iachath. Yna Iachath oedd tad Achwmai a Lahad. Y rhain oedd teuluoedd y Soriaid.
3. Dyma feibion Etam:Jesreel, Ishma ac Idbash: ac enw eu chwaer nhw oedd Hatselelponi.
4. Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Chwsha. Roedd y rhain yn ddisgynyddion i Hur, mab hynaf Effrath a hynafiad pobl Bethlehem.
5. Roedd gan Ashchwr, tad Tecoa, ddwy wraig, sef Chela a Naära:
6. Naära oedd mam Achwsam, Cheffer, Temeni, a Haachashtari. Y rhain oedd meibion Naära.