13. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi ei roi iddi o'i haelioni ei hun. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
14. Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
15. heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau.
16. Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!
17. Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron ddau cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.
18. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur coeth.
19. Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd pen llo ar gefn yr orsedd a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr.
20. Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!
21. Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.
22. Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr yn hwylio'r môr gyda llongau Hiram. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
23. Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman.
24. Ac roedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo.
25. Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
26. Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem.
27. Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
28. Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe.
29. Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a cant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.