15. Ac ni oleuant gannwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ.
16. Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
17. Na thybiwch fy nyfod i dorri'r gyfraith, neu'r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni.
18. Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll.
19. Pwy bynnag gan hynny a dorro un o'r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a'u gwnelo, ac a'u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd.
20. Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.
21. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn:
22. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.
23. Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn;
24. Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.