6. A'r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a'u hamharchasant, ac a'u lladdasant.
7. A phan glybu'r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt.
8. Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.
9. Ewch gan hynny i'r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i'r briodas.
10. A'r gweision hynny a aethant allan i'r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.
11. A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano:
12. Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud.
13. Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
14. Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15. Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.
16. A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion.
17. Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw?
18. Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr?
19. Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog:
20. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw'r ddelw hon a'r argraff?
21. Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw.
22. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adael ef, a myned ymaith.