38. A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw'r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.
39. Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.
40. Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hynny?
41. Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo'r ffrwythau yn eu hamserau.
42. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?
43. Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a'i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.
44. A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef yn chwilfriw.
45. A phan glybu'r archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe.
46. Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.