38. A'r maes yw'r byd; a'r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg;
39. A'r gelyn yr hwn a'u heuodd hwynt, yw diafol; a'r cynhaeaf yw diwedd y byd; a'r medelwyr yw'r angylion.
40. Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a'u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn.
41. Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnânt anwiredd;
42. Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
43. Yna y llewyrcha'r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
44. Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a'i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu'r hyn oll a fedd, ac yn prynu'r maes hwnnw.
45. Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg:
46. Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a'i prynodd ef.
47. Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth:
48. Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.