19. Daeth ato hefyd ei fam a'i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf.
20. A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.
21. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a'm brodyr i yw'r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22. A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llyn. A hwy a gychwynasant.
23. Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.
24. A hwy a aethant ato, ac a'i deffroesant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.
25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwyntoedd ac i'r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?
26. A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o'r tu arall, ar gyfer Galilea.
27. Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o'r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28. Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na'm poenech.