1. Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai'r bobl, efe a aeth i mewn i Gapernaum.
2. A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw.
3. A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef.
4. Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo;
5. Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog.
6. A'r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd:
7. Oherwydd paham ni'm tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas.
8. Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
9. Pan glybu'r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
10. A'r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11. A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o'i ddisgyblion, a thyrfa fawr.
12. A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi.
13. A'r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.