40. Eithr y llall a atebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth?
41. A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai'r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le.
42. Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i'th deyrnas.
43. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.
44. Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
45. A'r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46. A'r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i'th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.
47. A'r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.
48. A'r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.
49. A'i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd y rhai a'i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50. Ac wele, gŵr a'i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn:
51. (Hwn ni chytunasai â'u cyngor ac â'u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw;
52. Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu.