23. Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a'r archoffeiriaid a orfuant.
24. A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt.
25. Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i'w hewyllys hwynt.
26. Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ôl yr Iesu.
27. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o'i blegid ef.
28. A'r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o'm plegid i: eithr wylwch o'ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.
29. Canys wele, y mae'r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a'r crothau nid epiliasant, a'r bronnau ni roesant sugn.
30. Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.
31. Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?
32. Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i'w rhoi i'w marwolaeth.
33. A phan ddaethant i'r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a'r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a'r llall ar yr aswy.
34. A'r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.