13. Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.
14. Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint,
15. I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi'r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
16. Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd.
17. Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;
18. Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.
19. Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt.
20. Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân,
21. Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
22. A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:
23. Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.
24. Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a'ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,
25. I'r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.